Annwyl Aelodau,

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei ail gyfarfod eleni ar 20 Chwefror. Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â chynnydd o ran Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Y Penderfyniad ar gyfer 2015-16

Nododd y Bwrdd yr unig ymateb ffurfiol a ddaeth i law i’n hymgynghoriad, a’r adborth a gafwyd gan y grwpiau cynrychioliadol. Byddwn yn awr yn cyhoeddi ein Penderfyniad terfynol ar gyfer 2015-16 cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ddechrau mis Ebrill.

Cyflogau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2015-16

Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion cadarnhaol yn gyffredinol o ran y codiad cyflog arfaethedig ar gyfer staff cymorth yr Aelodau. Cytunodd y Bwrdd ar gynnydd o 1%, neu ffigurau canolrif ASHE yng Nghymru ym mis Mawrth 2015, yng nghyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2015-16  - pa un bynnag sydd fwyaf.

Cododd yr ymgynghoriad gwestiynau hefyd o ran trefniadau diswyddo a thaliadau marwolaeth-mewn swydd gwell ar gyfer Staff Cymorth - a chroesawyd y gwelliannau hyn. Byddwn yn ysgrifennu at gynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad i egluro ein cynigion yn hyn o beth.

Nodwyd pryderon Staff Cymorth hefyd ynghylch penderfyniadau ar gyfer 2016-17 (a thu hwnt). Er y bydd y rhain yn faterion i’w trafod gan y Bwrdd Taliadau newydd a gaiff ei benodi yn ddiweddarach eleni, cytunwyd y byddem yn argymell bod ein holynwyr yn rhoi ystyriaeth frys i’r mater hwn.

Y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

Trafododd y Bwrdd nifer o faterion sydd heb eu datrys, ac yn awr bydd yn cwblhau testun drafft ar gyfer ymgynghori arno. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r Penderfyniad Drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad, a’r adroddiad sy’n cyd-fynd ag ef ar 6 Mawrth. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 8 Ebrill.

Er bod ymgynghoriadau wedi’u cynnal ar y rhan fwyaf o’r meysydd ble y bydd newidiadau, byddwn hefyd yn cyflwyno cynnig newydd i newid y modd y mae’r Cynulliad yn darparu cefnogaeth i grwpiau.

Treuliwyd peth amser hefyd yn rhoi ystyriaeth bellach i’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar Gyflogau Aelodau’r Cynulliad, ac yn cytuno ar ein barn yn barod ar gyfer yr ymgynghoriad.

Pensiynau

Clywodd y Bwrdd adroddiad cynnydd am y cynllun pensiwn newydd. Mae’r Bwrdd i gael sylwadau gan Ymddiriedolwyr y cynllun Pensiwn ar y cynllun drafft yn fuan. Er bod y Bwrdd yn parhau i fwriadu cyhoeddi ei Benderfyniad Drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad ym mis Mai, yn ôl y targed, daeth yn annhebygol y caiff y cynllun pensiwn newydd ei glirio gan Drysorlys EM erbyn hynny.

Er mwyn rhoi y darlun cliriaf i ymgeiswyr posibl ar gyfer y Pumed Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai, serch hynny, yn cyhoeddi prif nodweddion ei gynllun arfaethedig fel rhan o’r Penderfyniad, gyda chofnod o’r ffaith ei fod yn aros am gymeradwyaeth swyddogol y Trysorlys, fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Materion amrywiol

Cytunodd y Bwrdd y bydd yn argymell bod y Comisiwn yn cynnig gwasanaeth contract allanol i gynorthwyo Aelodau Cynulliad a drechwyd, a’u staff (a staff perthnasol eu grŵp).

Y camau nesaf

Fel arfer, rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi’r llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan, cyn gynted ag y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i’w ddarllen.

 

Rwy’n barod iawn i gwrdd ag Aelodau Cynulliad unigol neu grwpiau plaid i drafod unrhyw agwedd ar waith y Bwrdd fel arfer hefyd. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cymru.gov.uk i wneud trefniadau. 

 

Yn gywir

Sandy Blair CBE

Cadeirydd

Y Bwrdd Taliadau